Mis Mawrth

Croeso Cynnes

Cafwyd cymhorthdal o £1000 i’n cynorthwyo i gynnal y boreau Mawrth wythnosol trwy grant Mannau Cynnes y Cyngor Sir. Gwerthfawrogwn gefnogaeth y Cyngor yn fawr. Mae rhwng 35-45 yn mynychu bob wythnos a rota o wirfoddolwyr yn cynorthwyo.

A grant for Warm Spaces from CCC has been much appreciated to help finance our morning sessions.

Ioga Cadair

Ar foreau Gwener cynhelir dwy sesiwn o loga cadair, y cyntaf am 10.00 a’r ail am 11.30 dan arweiniad Kelly. Codir £7 y sesiwn.

Chair Ioga sessions held on Friday at 10.00 and 11.30am.

Noson o Gawl a Chân Gŵyl Dewi

Cafwyd noson ragorol yng nghwmni Bois y Felin a gwledd o gawl a threiffl ar nos Fercher, Mawrth 5ed. Codwyd £400 tuag at elusen dementia.

A great night celebrating St David’s and a significant sum raised for dementia.