Mis Mai

Clwb Crefft

Mae Clwb Crefft Sanclêr wedi dechrau cwrdd bob prynhawn dydd Mercher yn y capel.

Weekly craft sessions have started every Wednesday afternoon.

Cyngerdd Siân James a Geraint Cynan Mai 22ain

Cafwyd noson wefreiddiol yng nghwmni’r ddau a drefnwyd mewn cydweithrediad â chynllun Noson Allan Cyngor y Celfyddydau. Cododd y gynulleidfa i gyd ar eu traed fel un wrth i Siân orffen ei chân olaf. Noson i’w chofio yn wir. Llwyddwyd i drosglwyddo cyfraniad o £200 o elw’r noson at  apêl Eisteddfod y Garreg Las 2026.

Bydd tocynnau ar gyfer ein cyngerdd nesaf ar werth yn fuan – Cyngerdd gyda Al Lewis ar nos Wener, Medi’r 12fed.

This concert, supported by the Wales Arts Council was thoroughly enjoyed by all – and the profit from the event donated to the 2026 National Eisteddfod. Tickets for our next concert with Al Lewis on Friday, September 12th  will be on sale soon!