Mis Ebrill
Pasg: 150 o wyau siocled!
Dosbarthwyd 150 o wyau Pasg cyn penwythnos y Pasg ; 71 i loches y gwragedd ac i blant mewn gofal yn y gymuned a’r gweddill i gartrefi Preswyl Sanclêr- Fronhaul, Brookfield House a Chartref Plant Llety Coed Cottage ( Llangynin) a Banc Bwyd Eglwys Christ Caerfyrddin.
Cyfrannwyd y rhain gan aelodau a chyfeillion y capel a hefyd gan gapeli gofalaeth Bro Cemaes Dyffryn Teifi. Daeth y Parch Sian Elin draw â’u cyfraniad draw un bore cyn hynny.
150 Easter eggs collected and distributed to the Women’s refuge and children in care in the community and to several residential homes in the area.


Gorsafoedd y Groes
Bu rhai o aelodau’r capel yn cymryd rhan yn y digwyddiad hwn yn Sanclêr a drefnwyd gan Deacon Jon a oedd wedi paentio nifer o luniau arbennig i gynorthwyo adrodd hanes yr Wythnos Fawr – a chafwyd eu benthyg wedyn ar gyfer ein hoedfa ar fore Sul y Pasg. Dyma ambell enghraifft ohonynt.
Members of the chapel attended this event held in the Gat, arranged by Deacon Jon who painted pictures to convey the events of Easter. He kindly lent these to us for our Easter service.

Sied y Dynion
Diolch i rai o aelodau’r Sied sy’n cwrdd yn y capel bob bore dydd Iau sydd wedi bod yn ailbeintio reilins y capel – Llawer o ddiolch iddynt.
We appreciate the help from members of the Men’s Shed who meet at the chapel every Thursday mornings – the railings are much improved!
Plant Dewi
Cyfrannwyd nifer fawr o gwiltiau wedi’u gweu i fabanod gan Ann Morris a’i ffrindiau o Maenclochog a rhai clytwaith gan Iona Cartwright. Maent wedi cyfrannu’n gyson at ein casgliadau i elusen Plant Dewi a gwerthfawrogwn eu cefnogaeth a’u haelioni.
A photo of some of the knitted quilts donated to Plant Dewi by Ann Morris and friends together with the patchwork ones by Iona Cartwright who also gifted the chapel with a framed star of Bethlehem.

Caffi Cofio
Cynhaliwyd sawl sesiwn o’r Caffi Cofio ar foreau Mercher ond roedd y niferoedd yn fach ond nifer o wirfoddolwyr. Penderfynwyd trosglwyddo elw’r noson Gŵyl Dewi o £400 i’r grŵp sy’n cwrdd yn Nhalacharn a bu rhai o’n gwirfoddolwyr yno – bwriadwn ail ddechrau yn yr hydref.
A photo of the cheque of £400 which was donated to the dementia group in Laugharne.

Stori a Chân
Mewn cydweithrediad â Menter Iaith Gorllewin Myrddin cynhelir sesiynau i rieni a phlant ifanc yn y capel am yn ail fore Mercher rhwng 10.00-11.00 y bore. Mae nifer o rieni a’u plant yn mwynhau’r sesiynau hyn. Diolch i Janet am ei drefnu.
Welsh story and singing sessions for parents and young children held every fortnight on Wednesday mornings which are proving to be so popular.

Côd QR hanes
Pan fyddwch yn cerdded heibio’r capel fe welwch y côd i’w sganio sy’n mynd â chi at wefan am hanes y capel ac yn benodol hanes y bedd Mwslemaidd cyntaf yng Nghymru sydd yn y fynwent.
If you pass the chapel scan the QR cod on the pillar which refers to some of the chapel’s history, including the first Muslim grave in Wales.
