Croeso i Wefan Bethlehem Newydd

Capel gydag Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac sy’n lleoliad i weithgareddau cymunedol ac elusennol Tŷ Croeso.

Pwll Trap,
Sanclêr,
SA33 3AN

Gweinidog: Rhodri Glyn Thomas – rhodriglyn@icloud.com

Swyddog Cymunedol: Annalyn Davies – lyndavies524@btinternet.com

Croeso!

Sefydlwyd y wefan hon i gofnodi hanes yr achos yng nghapel yr Annibynwyr Bethlehem Pwll Trap ac i rannu gwybodaeth am weithgareddau cyfredol fel addoldy a chanolfan cymunedol Tŷ Croeso ȃ’r aelodau a’r gymuned yn ehangach.

A website recording the history of the chapel and its current role as place of worship and a community hub.

Capel Bethlehem Newydd

Gwasanaethau
Tŷ Croeso
Hanes

Adnewyddu Adeilad y Capel

Cyn dechrau ar y gwaith o adnewyddu’r adeilad trefnwyd arddangosfa o Ddoe, Heddiw ac Yfory ym Methlehem Newydd a  chynhaliwyd diwrnod agored ym mis Gorffennaf 2023. Roedd y Ddoe yn canolbwyntio ar hanes yr achos gydag arddangosfa o  luniau  ac arteffactau o’r gorffennol; roedd arddangosfa’r Heddiw yn rhoi blas o weithgaredd elusennol cyfredol yr eglwys a’r Yfory yn gyflwyniad i gynlluniau’r pensaer o ran adnewyddu tu fewn i’r capel a’r festri.