Mehefin 5ed

5/06/2026

Gyfeillion


Mae’n debyg eich bod i gyd yn gyfarwydd â’r adnod sy’n ein sicrhau bod presenoldeb Duw gyda’r dau neu dri sy wedi ymgynnull yn ei enw Ef. Bu’n gysur dros y blynyddoedd i’r ychydig ffyddlon sy’n cadw drws y capel ar agor. Ond a yw cyfiawnhau cynulleidfaoedd sy’n druenus o fach yn gymwynas yn y dyddiau hyn pan mae cyhoeddi’r Gair wedi mynd yn gynyddol anoddach?


Bum yn pori yr wythnos yma yng nghyfrifon Undeb yr Annibynwyr. Nid yw hynny yn arferiad imi! Ond un o’r pethau a gofnodir yw aelodaeth y capeli ac mae hynny’n agoriad llygad. Gorllewin Caerfyrddin yw’r unig gyfundeb heb gapel a llai na deg o aelodau. Mae gan lawer ohonynt bump neu fwy o gapeli gyda llai na hanner dwsin o aelodau. Nid agosáu at y dibyn ydym ni – rydym wedi hen fynd drosti. Nid canu pwy fydd yma ymhen can mlynedd ddylem wneud ond pwy fydd yma ymhen deng mlynedd! Mae Bethlehem Newydd yn un o’r pedwar capel yng Ngorllewin Caerfyrddin sydd â mwy na chant o aelodau. Petai gennym ddeg aelod yn rhagor byddem yn yr ail safle. Does dim gwobr am ddyfalu pwy sy ar y brig!


Dw i wedi bod yn cyfeirio at Bethlehem Newydd fel capel bach yng nghefn gwlad – ond nid mwyach! Llai na chanrif yn ôl roedd Dr Tegfan Davies yn anelu at gael mil o aelodau yn y Christian Temple, Rhydaman. Shwd ma pethau erbyn hyn – llai na chant. Tua’r un pryd roedd Lewis Tymbl yn cyhoeddi o Gadair yr Undeb nad oedd unrhyw esgus i weinidog beidio â chynyddu ei gynulleidfa – dyna oedd i’w ddisgwyl a dyna arwydd o lwyddiant.

Felly digon o’r ystadegau di-galon. Beth wnawn ni? Gallwn roi lan neu gallwn frwydro yn erbyn y llanw. A bod yn deg gydag Undeb yr Annibynwyr mae arwyddion o weithredu creadigol. Cafwyd cronfa Arloesi a Buddsoddi a buom yn ddigon ffodus i elwa o hynny. Gellir dadlau bod ein llwyddiant yn dilyn penodi Swyddog Cymunedol delfrydol ond a fyddem wedi mentro heb y grant? Erbyn hyn rydym wedi llwyddo i sicrhau grant newydd, sef, Cefnogi Cyfle ac mae gennym y person cywir i’r swydd unwaith yn rhagor. Ond a fydd hynny yn sicrhau llwyddiant – nid heb y fyddin o wirfoddolwyr sydd gennym. Wel, nid byddin a dweud y gwir ond mae modd i fintai bach lwyddo – edrychwch ar hanes Gideon yn Llyfr y Barnwyr.


Mae gennym gyfle newydd i fod yn greadigol. Mae’n her aruthrol ond os ydym yn brwydro yn erbyn yr elfennau unwaith eto gallwn, o leiaf, ohirio tranc. Does dim modd addo mwy na hynny. I’r cwestiwn – Pwy fydd yma ym mhen deng mlynedd? – gallwn gyhoeddi’n hyderus – Bethlehem Newydd. Nid pawb fydd yn gallu dweud hynny – ychydig iawn a dweud y gwir.


Felly technoleg amdani – mentro i diriogaeth newydd ac annisgwyl. Ond dyna fu hanes pobl Dduw o groesi’r môr coch dan arweiniad Moses hyd heddiw. 
Fe fydd Ceri yn ffilmio yr oedfa dydd Sul ond na phoener ni fydd yn cael ei dangos i unrhyw un. Dim ond arbrofi i weld beth yw’r anawsterau a chaniatáu inni symud ymlaen.


Fel dywedodd rhywun wrthyf yn ddiweddar – mae Silicon Valley wedi dod i Bwlltrap!

Cofion

RGT 

Cyhoeddiadau:

  • Bore Sul: oedfa aelodau – parhad ar Lyfr yr Actau a thröedigaeth Saul
  • Nos Fawrth am 7.00 Hwb
  • Dydd Gwener: 12.00-3.30 yp : Grŵp ffocws heddlu Dyfed-Powys

            ( angen gwirfoddolwyr i wneud paned!)

  • Dydd Sul : Oedfa dan arweiniad aelodau Gibeon ar thema Cymorth Cristnogol
  • Mehefin 17eg: Cyfarfod blynyddol Chwiorydd Gorllewin Caerfyrddin: Bryn Iwan am 7.30.