Mehefin 19eg

19.06.2026

Gyfeillion,

 Cefais fy atgoffa yn ddiweddar o ddylanwad ein magwraeth arnom. Mae rhai pethau yn amlwg. Ni fyddem yn Gymry ac yn benodol yn Gymry Cymraeg ein hiaith heblaw am benderfyniadau ein rhieni. Mae rhai pethau yn wir am rai ohonom yn unig. Gallwn honni ein bod yn gapelwyr oherwydd dylanwad ein rhieni ond nid o reidrwydd yn Annibynwyr. Oherwydd ein bod wedi etifeddu ein Cristnogaeth a hynny yn arwain at fod yn gapelwyr a hynny’n arwain at fynychu capel yr Annibynwyr – Beth pan fydd y capel hwnnw’n cau?

Roedd Dr D. Ben Rees, mewn cyfweliad gyda Dei Thomas, nos Sul diwethaf yn edrych yn ôl dros ei fywyd. Bu’n myfyrio yn gyntaf ar ei fagwraeth yn Llanddewi Brefi a’r dylanwad gafodd hynny ar ei fywyd a’r penderfyniadau a wnaeth. Hynny yw byddai yn berson gwahanol heblaw am y fagwraeth honno. Bu’n myfyrio wedi hynny ar hanner can mlynedd a mwy yn y weinidogaeth. Dechreuodd yng nghymoedd de Cymru ac yna symud i Lerpwl ac mae yno o hyd. Y gwerthoedd hynny a etifeddodd yn y blynyddoedd cynnar hynny oedd yn gyfrifol am hynny, meddai.

Mae Lerpwl wedi cael ei galw’n brif ddinas gogledd Cymru. Roedd hynny yn deillio o’r ffaith bod cynifer o bobl wedi gadael Cymru i chwilio am waith. Ymaelododd llawer o’r rhain mewn capeli Cymraeg gan gynnwys Highfield Road lle roedd Ben Rees yn weinidog. Arweiniodd hynny at gapel bywiog, cynulleidfaoedd niferus ac i ddatblygu yn ganolbwynt i fywyd Cymraeg Lerpwl.

Datganiad mwyaf dadleuol Ben Rees yn ystod y cyfweliad oedd y byddai holl gapeli Cymraeg wedi cau erbyn 2050. Dyw hynny ddim yn syndod mewn gwirionedd! Ond hwyrach bod cyflymder y dirywiad. Beth sydd wedi digwydd i achosi hyn? Newidiadau yn y boblogaeth – canran y Cymry Cymraeg wedi gostwng ac eto i gyd mae cyfanswm dinasyddion y wlad wedi cynyddu’n  sylweddol.

Y cwestiwn inni ydy pam nad ydym yn rhan o’r duedd yma? Pam rydym yn parhau i fynychu capel Cymraeg? A fyddem yn parhau i wneud hynny petai ein capel ni yn cau neu ein bod yn symud rhywle arall i fyw? Hynny yw petai ein hamgylchiadau yn newid.

I ba raddau mae etifeddiaeth ein magwraeth yn llywio ein hymddygiad, ein dewisiadau ac yn y pendraw ein bywydau? Cwestiwn difrifol ond dyna fe mae cyflwr Anghydffurfiaeth yng Nghymru yn ddifrifol!


Wrth gwrs does dim rhaid i hyn ddigwydd – mae’r dyfodol yn ddibynnol i raddau helaeth ar yr hyn a gyflawnwn yn y presennol. Ni allwn reoli’r dyfodol ond gallwn osod sylfaen gadarn a chreu  gobaith ar ei gyfer.

Cyhoeddiadau:

  • Bore Sul Gibeon: Gwasanaeth Cymorth Cristnogol dan arweiniad aelodau.
  • Bore Sul, Mehefin 28ain: Arwel Evans

Diolch i bawb a fynychodd y gyfres o 6 hwb yr Undeb a ddaeth i ben nos Fawrth diwethaf – ac am baratoi paned!

Rhaghysbysiad:

Gorffennaf 12fed: Sul Sbesial yn Ysgol Griffith Jones yn y prynhawn – a BN a Gibeon sy’n gyfrifol am baratoi paned. Gorffennaf 19eg: Pererindod i Landeilo a chinio yn y Plough Rhosmaen.