Medi 4ydd

Gyfeillion,

Dywedodd rhywun wrthyf yr wythnos hon ei bod yn amlwg ein bod ni ar daith gyffrous iawn. Y peth pwysig yw ein bod yn teithio gyda’n gilydd fel cymuned o gredinwyr. Rydym ni fel cymuned ar daith – a bydd modd i ystyried pa mor gyffrous yw’r daith honno dros y tri Sul nesaf. 

Mae’r cysyniad o gymuned yn greiddiol i hanes Duw a’i bobl. Os cofiwch chi buom yr wythnos diwethaf yn myfyrio ar hanes pobl Dduw yn dychwelyd o gaethglud ym Mabilon  gyda Duw yn eu sicrhau y byddai ef yn gysur iddynt beth bynnag fyddai eu hymateb. At ei gilydd byddai’n rhaid i hyd yn oed y mwyaf caredig o ddarllenwyr yr Hen Destament dderbyn mai digon amrywiol fu ymateb y bobl i ffyddlondeb a chariad Duw. 

Roedd pechod, sef, gwrthryfel radical y ddynoliaeth yn erbyn cariad Duw, yn amlwg o’r cychwyn. Gweithred symbolaidd oedd ymestyn at yr afal .Y neges oedd fod Adda ac Efa wedi anwybyddu gorchymyn Duw ac wedi dewis gweithredu’n groes i’w ddymuniadau Ef. Cariad diamod sy’n nodweddu ymddygiad Duw gydol hanes  ei bobl yn yr Hen Destament.

Addewid Duw i Moses wrth ei alw i arwain ei bobl o gaethiwed yr Aifft i wlad yr addewid a fyddai’n gorlifo o laeth a mêl oedd y byddai Ef gyda hwy a’u cynnal. Ond digon amrywiol, a dweud y lleiaf, fu ymateb y bobl. Dyna’r berthynas – Duw yn ffyddlon a’r bobl yn crwydro’n ddi-hid yn dilyn eu buddiannau eu hunain.

Mae dyfodiad y Crist yn y Testament Newydd yn weithred bwriadol gan Dduw i oresgyn methiannau’r genedl a’i harwain yn ôl ato Ef ac at berthynas iach gydag Ef. Bu rhai yn cyd-gerdded ar y daith gyda’r Crist ond ni fuodd rheini yn ddibynadwy bob amser – yn enwedig yn y cyfnodau tyngedfennol. 

Wedi croeshoeliad ac atgyfodiad y Crist daeth yr Apostolion at ei gilydd i ffurfio yr Eglwys Fore. Ond yn unol ag addewid y Crist roedd angen yr Ysbrydol Glân i’w cynnal a’u cadw ar y llwybr cywir. Roedd angen tröedigaeth ar Saul o Darsus i’w arwain at alwad Duw iddo genhadu yn y byd Groegaidd-Rhufeinig. Creodd gymunedau Cristnogol a bu’n rhaid iddo ddioddef eu methiannau ac ar adegau eu gwrthodiad ohono ef ac ewyllys Duw.

Yn y traddodiad hwnnw o’r “Koinonia” rydym ninnau. Yn rhannu’r fraint o fod yn bobl Dduw ond rhannu hefyd y diffygion a’r methiannau sy’n eu nodweddu wrth ymateb i’w gariad Ef – lan a lawr yw hi ond trwy’r cyfan yn ceisio cadw fflam y ffydd yn fyw – er gogoniant iddo Ef.

Ymlaen mae Canaan – dal i deithio ydym ni.

Sylwadau braidd yn hir a chyffredinol yr wythnos yma – fy esgus yw nad ydw i yma am y tri dydd Sul nesaf. Pob hwyl i chi am y tro – ar daith y byddaf innau hefyd a bydd digon o donnau i’n gyrru lan a lawr ar honno hefyd!

Cyhoeddiadau:

Medi 6ed: Oedfa digidol yr aelodau: Bethlehem Newydd.

Medi 13eg: Oedfa dan arweiniad yr aelodau: Bethlehem Newydd.

Medi 20fed: Gibeon. Bydd grwp elusen Golau Gras o gymuned Ffynnon, Llandysul yn cyflwyno’r oedfa; gweler eu gwefan Golau Gras am eu cymorth i ward iechyd meddwl merched a gwneir casgliad iddynt yn ystod y gwasanaeth.

Cofiwch hefyd:

  • Cwrdd Chwarter yn Hermon Medi’r 10fed – yn y cyfarfod nos am 7.00  bydd dau aelod o gapel Efailisaf yn rhannu eu profiad.
  • Byddwn yn casglu dillad a nwyddau i’r Lloches erbyn diwedd y mis ac yn cynnal bore coffi Macmillan ar y 29ain.