Medi 25ain

Gyfeillion

Dyma’r cylchlythyr cyntaf am bythefnos. Roedd yn braf clywed am y gweithgaredd a fu yn y cyfamser. Tair oedfa diddorol ac amrywiol o ran ffurf a chynnwys. Pob oedfa yn fendithiol ac yn cynnig ysbrydoliaeth inni fel teulu o gredinwyr. Diolch i’r aelodau am y ddwy oedfa ym Methlehem Newydd gyda nifer yn ysgwyddo cyfrifoldebau newydd. Diolch i Annalyn am drefnu i Helen Gwenllian rannu ei phrofiad a gwaith Golau Gras yn yr oedfa yng Ngibeon  a werthfawrogwyd gan bawb oedd y bresennol gan ddangos sut gall cymuned o Gristnogion gynnig cefnogaeth i rai mewn angen yn y gymuned. Cyflwynwyd cyfraniad o £270, yn cynnwys cyfraniad o £100 gan BN.

Yn y cylchlythyr diwethaf buom yn myfyrio ar hanesion pobl Dduw ar daith. Yn yr Hen Destament cofnodir y daith heriol o gaethiwed yr Aifft. Y ffigwr canolog yn yr Hanes yw Moses – ef yw’r Arweinydd. Yn ddiddorol arweinydd anfodlon oedd e ac ar lawer ystyr arweinydd anaddas. Yn ôl ei gyffesiad ei hunan Aaron ei frawd oedd yr Arweinydd naturiol. Ond Moses a ddewisodd Duw er yn ddiddorol nid ef a gafodd y fraint o arwain y bobl i Wlad yr Addewid.

Yn y Testament Newydd yr her a wynebodd y Cristnogion cynnar oedd camu o fod yn ddisgyblion a dilynwyr i’r Crist i fod arweinwyr yr Eglwys Fore. Cam a allai brofi yn ormod i lawer ohonynt ond roedd Duw y Tad, Iesu y Mab a’r Ysbryd Glân y Diddanydd gyda nhw gydol y daith. Profodd yr Apostolion i fod yn arwyr ar adegau ond dro arall wedi eu llethu gan ofynion yr hyn a wynebent. Bu’n rhaid iddynt dyfu ac addasu.

Dyna’r her sy’n ein hwynebu – mentro ac addasu yn ôl y galw a sicrhau nad ydym yn or ddibynnol ar unrhyw unigolion. Ar y nodyn hwnnw fydda i ac ambell un arall yn methu bod yn yr oedfa dydd Sul felly rydym yn dibynnu arnoch i lenwi’r bylchau ar ein rhan fel rydych wedi gwneud lawer gwaith yn barod.

Cyhoeddiadau:

Bore Sadwrn 10-00-12.00 – y capel ar agor i dderbyn dillad – a’r Sadwrn canlynol cyn oedfa  Coda Ni ymhen yr wythnos.

Bore Sul: Arwel Evans fydd yn gwasanaethu. Dyma’r cyfle olaf i gyfrannu i’r Lloches gan y bydd y nwyddau i’w cyflwyno fore Llun. Mae tipyn wedi’i gasglu eisoes gan ddiolch i bawb am eich cefnogaeth.

Bore dydd Mawrth: Bore Coffi Macmillan – Dewch yn llu i gefnogi’r elusen – cewch paned a theisen am £3 a hyderwn y bydd y cogyddion yn eich plith yn dod â rhywbeth i’r stondin!

Bore Sul, Hydref 4ydd: Oedfa gymun dan arweiniad criw Coda Ni.

Hydref 11eg: Oedfa dan arweiniad aelodau.

** Diolch i Eryl am sicrhau ad-daliad treth incwm o £1348.02 drwy’r drefn gyfamodi a fu’n gryn orchest a gwerthfawrogwn ei dyfalbarhad.**