Mai 15fed

15/05/2026

Gyfeillion 

Newyddion da o lawenydd mawr. Gweler isod gadarnhad ein bod wedi derbyn cymhorthdal pellach o £60,000 dros 3 blynedd, hynny yw £20,000 y flwyddyn gan Undeb Annibynwyr Cymru. Mae hyn yn dilyn y grant o £50,000 a dderbyniasom i gyflogi Swyddog Cymunedol yn 2021. Mae’r gwaith a gyflawnodd Annalyn dros y bum mlynedd diwethaf wedi bod yn llwyddiant eithriadol. Mae proffil y capel o fewn y gymuned wedi codi yn sylweddol, Mae gennym bartneriaethau newydd ac rydym yn codi sawl mil o bunnoedd bob blwyddyn i elusennau lleol a chenedlaethol. Mae’r gweithgareddau beunyddiol ynghyd â digwyddiadau arbennig yn cael eu cynnal gan wirfoddolwyr a dyna ein cryfder a’n gwendid. Rydym i gyd bum mlynedd yn hyn nag oeddem ar ddechrau’r daith yma a does na fawr o arwyddion o waed newydd yn dod i lenwi bylchoedd.

Mae’r cymhorthdal newydd wedi ei gyflwyno inni gyflawni arbrawf arloesol, sef, troi y capel yn ganolfan ddigidol. Defnyddio y dechnoleg ddiweddaraf i lenwi ein bylchau o ran adnoddau dynol. Bydd yn ein galluogi i fywiogi ein haddoliad, dwysáu ein cenhadu a chynyddu ein gweithgareddau cymunedol. Bydd hefyd yn ein galluogi i greu partneriaethau gyda Eglwysi a gofalaethau cyfagos.

Gweler isod gadarnhad gan Elinor Wyn Reynolds, Ysgrifennydd Cyffredinol yr Undeb, ein bod wedi llwyddo i sicrhau’r grant.

 Helo Rhodri,

 Gair yn fyr i ddweud yn gyflym cyn diwedd heddiw fod y panel wedi rhoi’r grant yn llawn i chi am dair blynedd. Llongyfarchiadau.

 Amod ar y cynllun yw fod y panel yn gofyn i’r swyddog prosiect (Ceri) i gadw mewn cysylltiad gyda Rhodri Darcy ar unrhyw ddatblygiadau, am y gallai’r cynllun, os yw’n llwyddiannus, fod yn fodel ar gyfer rhannau eraill i Gymru.

 Byddaf yn anfon llythyr swyddogol atoch cyn diwedd yr wythnos.

Hwyl am y tro,

 Elinor

Mae’n siŵr eich bod yn holi pwy yw Ceri. Mae ef wedi bod yn ein cynorthwyo i baratoi’r cais ar sail ei arbenigedd yn y maes. Mae ganddo gysylltiadau agos â Bethlehem Newydd – naw o’r teulu yn aelodau, ei fam yn ddiacon a’i fodryb yn aelod hynod weithgar o’r Pwyllgor Rheoli. Roedd y broses eleni yn llawer mwy cymhleth. Bu’n rhaid cyflwyno cais, paratoi cynllun busnes a chreu amserlen yn dangos cynnydd y prosiect o flwyddyn i flwyddyn. Fel y gwelwch o’r atodiadau roedd paratoi y cais yn fwy  heriol y tro hwn. Ar ben hynny roedd dau gyfweliad lle holwyd ni’n fanwl am yr hyn roeddem yn gobeithio ei gyflawni. Proses llawer mwy beichus na’r profiad a gawsom wrth gyflwyno’r cais yn 2021.

Rydym yn wynebu cyfnod heriol ac anturus ond fe fydd hefyd yn gyffrous. Rydym yn eich gwahodd i ymuno gyda ni ar y daith uchelgeisiol hon.

Cyhoeddiadau:

  • Bore Sul: Oedfa dan arweiniad aelodau yng nghwmni rhai o ofalaeth Casblaidd.
  • Mai 23ain: Catrin Isaac – a sylwer bydd y gwasanaeth ym Methlehem – NID yng nghapel Gibeon fel sy yn yr adroddiad.
  • Mai 31ain: Parch John Gwilym Jones.
  • Cofiwch am yr HWB am 7.00 nos Fawrth nesa – yn trafod bod yn ddiacon. Mae presenoldeb o’r ofalaeth wedi bod yn dda iawn hyd yn hyn. Bydd y nesa wedyn ymhen pythefnos.
  • Diolch yn fawr iawn i bawb a fu’n trefnu ac yn cyfrannu at lwyddiant Cwrdd Chwarter Gibeon ddydd Iau gan ddiolch yn enwedig i Beti-Wyn am gyflwyno hanes yr achos – ac am gyfeilio hefyd – a hynny’n ardderchog! Diolch hefyd i’r bobl ifanc am ddod i gyflwyno’r rhannau arweiniol mor raenus ar ddechrau’r cyfarfod gyda’r hwyr. Paratowyd gwledd i’r te rhwng y ddau gyfarfod.

*** Dewch â nwyddau golchi / ymolchi / glanhau i’r Lloches – dyma’r cyfle olaf i gyfrannu’r tro hwn.***

*** Ceisiwch hefyd werthu / prynu tocyn i’r gyngerdd i godi arian  at Gymorth Cristnogol***