Ionawr 30ain

30.01/2026

Gyfeillion,

Rheolaeth Eglwysig

“Mae’n rhaid newid y ffordd mae eglwysi’n cael eu rheoli yn fuan neu fe fydd hi’n rhy hwyr.”

Na, nid fy ngeiriau i mo rhain. Er maen nhw’n swnio’n debyg i’r math o beth dw i yn ei ddweud hyd at syrffed i chi ac i finnau hefyd. Nan Powell-Davies, ysgrifennydd cyffredinol Eglwys Bresbyteraidd Cymru oedd yn rhybuddio’r Gymanfa Gyffredinol o sefyllfa enbydus yr enwad. A dyma pam:

11,203 o aelodau sydd gan yr enwad erbyn hyn yn y capeli Cymraeg a Saesneg ac yn fwy gofidus dim ond 275 ohonynt sy dan 25 mlwydd oed. Yn 1926 roedd 189,727 o aelodau ond erbyn 1966 roedd y ffigwr wedi gostwng i 122,646 ac erbyn 1982 roedd wedi cwympo eto i 79,900.
O osod hyn yn ei gyd-destun hanesyddol yn 1761 roedd 200,000 yn mynychu ysgolion Sul Griffith Jones a Chymru y wlad mwyaf llythrennog Ewrop. Wrth gwrs llythrennog yn y Beibl oedden nhw!

Mae’r Llyfrgell Genedlaethol wedi creu data am sefyllfa capeli Cymru yn 2021. Roedd 6,424 o gapeli a dyma’r ystadegau ar gyfer 4,081 ohonyn nhw.

Roedd 745 yn adfeilion a 1245 wedi eu haddasu yn annedd-dai. O’r gweddill nid oedd 253 yn cael eu defnyddio o gwbl gan adael 1,838 yn addoldai o hyd.

Fe fydd Adroddiadau Blynyddol yr ofalaeth yma yn adrodd yr un stori. Dirywiad syfrdanol. Nid fod yr ystadegau yn dweud y stori i gyd. Gallwn ymhyfrydu yn y ffaith bod cymaint o weithgaredd yn y capel a chynifer yn gwirfoddoli. Ond beth am y rhagolygon – a oes na genhedlaeth arall o wirfoddolwyr ar y gorwel? Os ydyn nhw dydyn nhw ddim i’w gweld. Fe allwn ni aros yn amyneddgar am ddiwygiad tebyg i 1904 ond dyw hynny ddim yn debygol nac yn ddymunol (yn fy marn i o leiaf.)

Yr opsiwn arall yw cymryd rhybudd Nan Powell-Davies o ddifri ac ymateb i realiti ein sefyllfa. Mae’r cais am gymhorthdal gan yr Undeb i greu Eglwys ddigidol o wirfoddolwyr wedi ei gwblhau. A fyddwn ni yn llwyddo i gyflawni hynny, petawn ni’n ddigon ffodus i dderbyn Cymhorthdal? Y gwir plaen yw nad ydw i’n gwybod – ond o leiaf fe fyddwn ni wedi ymdrechu i ymateb i’r argyfwng.

Isod mae linc i weddi y Ficer Pritchard dros yr Eglwys. A yw e’n berthnasol? Fe gewch chi benderfynu – Mae’n ddifyr o leiaf.

https://cy.wikisource.org/wiki/Gwaith_yr_Hen_Ficer/Gweddi_Dros_yr_Eglwys

Cyhoeddiadau:

Chwefror 1af: Oedfa Gymun dan arweiniad yr aelodau: Bethlehem Newydd.

Chwefror 8fed: Y Parch Euros Jones Evans. Bethlehem Newydd.

Bydd tocynnau’r Noson Gawl a Chân gyda Bois y Frenni ar gael dydd Sul – 50 ohonynt sydd, felly y cyntaf i’r felin!