Gorffennaf 3ydd
3/07/2026
Gyfeillion
Beth yn union yw gwaddol ac yn fwy penodol sut gallwn ei barchu a’i werthfawrogi?
Cododd y cwestiwn yn fy mhen wrth dalu teyrnged i Annalyn a’i gwaith ar ddiwedd ei
chyfnod fel Swyddog Cymunedol – swydd a grëwyd gan y datblygiad yn ein
gweithgareddau fel capel a chymhorthdal Arloesi a Buddsoddi Undeb yr Annibynwyr.
Rhywbeth newydd a gwahanol ond yn ei hanfod yn deillio o’n bodolaeth fel capel yng
nghanol pentref Pwll Trap ers dros ddwy ganrif.
Mae’n debyg taw ‘legacy’ yw ‘r cyfieithiad Saesneg gorau, sef, rhywbeth gwerthfawr
sydd wedi ei etifeddu o’r gorffennol. Hyd yn ddiweddar gellid dadlau ein bod yn
gwneud hynny trwy gadw pethau fel yr oeddent. Tra bod newid mewn arferion y
gymuned wedi golygu bod crebachu wedi digwydd – tair oedfa ar y Sul wedi mynd yn
un a’r cwrdd gweddi wedi diflannu ynghyd â newidiadau eraill ond roedd yr hyn a
gynhaliwyd heb newid. Y prawf terfynol oedd y gallai aelod o unrhyw gyfnod yn
hanes y capel droi lan i oedfa a theimlo’n hollol gysurus. Un emyn yn llai ond y
gweddill heb newid heblaw hyd y bregeth. Ond beth fyddai eu hymateb erbyn hyn –
yr aelodau’n arwain yr addoliad a’r rhan fwyaf ohonynt yn wragedd heb sôn am
baned a sgwrs ar ddiwedd yr oedfa.
A dweud y gwir fydden nhw ddim hyd yn oed yn siŵr ble i eistedd heb ffoi i
ddiogelwch y galeri. A beth am y gweithgareddau ganol wythnos – a fyddent yn
teimlo’n gysurus yn y dosbarth ioga ar fore Gwener? Dyna pam ry’n ni yma o hyd.
Felly mae’n gyfrifoldeb arnom ac yn fraint inni allu parhau â’r gwaith mae Annalyn
wedi ei ddechrau ac fe wnawn ni hynny. Mae gennym gnewyllyn o wirfoddolwyr
profiadol a brwdfrydig fydd yn sicrhau bod hynny yn digwydd. Mae penodiad Ceri yn
Swyddog Technoleg yn mynd â ni i gyfeiriad newydd ac anturus. Ychydig o brofiad a
llai fyth o arbenigedd sydd gennym yn y maes hwnnw ond dyna’r byd rydym ni’n byw
ynddo. Byd lle mae popeth yn symud yn aruthrol o gyflym ac mae’n rhaid i ninnau
symud ymlaen gydag e neu byddwn wedi ein gadael unwaith eto yn amherthnasol i’r
oes rydym yn byw ynddi.
Felly beth yw gwaddol? Parchu yr hyn a fu yn sicr ond mentro ar sail hynny yn
hytrach nag aros yn yr unfan a chaniatáu i’r byd ein gadael i fyw yn ei gysgod. Nid
gwaddol y ddeunawfed ganrif ond yr unfed ganrif ar hugain sydd gennym diolch i
Annalyn. Dyna’r gwaddol sydd angen ei barchu a’i ddatblygu. A beth am y dyfodol ?
- wel mae’n anodd edrych ymlaen fwy na deng mlynedd – does na ddim cenhedlaeth
arall ar y gorwel. Ond na fe dw i’n joio mynd i ioga a phwy a ŵyr na ddof i
werthfawrogi AI. O leiaf fe fydd y capel dal yma mewn deng mlynedd!
Cyhoeddiadau:
Bore Sul: Oedfa dan arweiniad aelodau ar ddarlun Leonardo da Vinci o’r Swper Olaf
a chymun i ddilyn.
Byddwn yn derbyn cyfraniadau at Apêl DEC i drychineb Venezuela bore Sul ac yn ystod yr wythnos yn dilyn.
Gorffennaf 12fed: Sul Sbesial a gynheir yn Ysgol Griffith Jones am 2.00yp
a Rhian Evans yn annerch.
BN a Gibeon sy’n gyfrifol am weini paned.
Gorffennaf 19eg: Pererindod – Mae 11 enw gyda ni hyd yn hyn a thua 14/15 o’r
Tabernacl Hendy Gwyn. Awgrymir eich bod yn anelu at gyrraedd yr eglwys erbyn
10.30 – gollwng rhai cyn mynd i barcio. Bydd Rhian Morgan yno i’ch croesawu a’r
gwasanaeth i ddechrau am 11.00. Mae arddangosfa ddigidol yno o Lyfr Efengylau
o’r 8fed ganrif – y gwreiddiol yn Eglwys Gadeiriol Lichfield.
Trefnwyd cinio yn y Plough Rhosmaen 12.45 – ac nid oes angen archebu ymlaen
llaw – medden nhw!