Gorffennaf 31ain

31/07/2026

Gyfeillion

Ni fydd oedfa dydd Sul nesaf (Awst 2ail). Bydd cyfle i chi ymuno gyda’r gynulleidfa yn Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las neu fwynhau’r darllediad yn hwyrach yn y dydd. Thema’r gwasanaeth fydd Heddwch a Chyfiawnder ac maen debyg y cawn flas ar  draddodiad y canu pwnc.

Ni fydd oedfa gennym ar y 9fed o Awst ond bydd oedfa arbennig yn cael ei gynnal yn Ebeneser Dyfed; y Parch Rob Nicholls yw’r pregethwr gwadd ac yng nghwmni Mererid Hopwood, Tudur Dylan, y Parch Beti Wyn James a Cleif Harpwood.

Ni fydd oedfaon yn yr ofalaeth y ddau ddydd Sul canlynol. Cofiwch fod oedfaon yng nghapeli Annibynwyr Cylch Caerfyrddin yn yr Eglwysi, gan gynnwys Bancyfelin, ac yn ddigidol. Bydd oedfaon yn y Tabernacl Hendy-gwyn hefyd.

Nid esgusodion dros beidio cynnal oedfaon yw’r uchod ond cyfle i brofi rhywbeth gwahanol. Cyfle hefyd i aelodau hynod o ffyddlon i gael ambell fore Sul yn rhydd – hoe fechan i wneud a fynnwch. Does dim angen teimlo’n euog gan mai’r un wynebau sy’n gwmni i’w gilydd bob bore Sul – a diolch amdanoch.

Wrth gyfeirio at ddulliau gwahanol o addoli dylid cyfeirio at yr oedfa yng Ngibeon fore Sul diwethaf. Oedfa hyfryd dan arweiniad Iona yn y maes parcio, tro bach i gaer o’r Oes Haearn i fwynhau’r golygfeydd ysblennydd o ben y bryn a phicnic i ddilyn. Digwyddiad y gellid ei ailadrodd ond nid ym mis Ionawr!

Cofiwch hefyd y bydd gweithgareddau canol wythnos yn cael eu cynnal yn ôl yr arfer ym Methlehem Newydd drwy gydol mis Awst.

Bydd oedfa nesaf yr Ofalaeth ym Methlehem Newydd am 10.30 yn oedfa Gymun ar y 30ain o Awst. Edrychwn ymlaen i’ch croesawu yn ôl ar gyfer oedfaon yr hydref.

Er gwybodaeth mae Cristnogaeth 21 wedi trefnu sesiwn:

                                      Creu Newid, llunio dyfodol

gyda thair enghraifft o greu newid wrth geisio ffurfio dyfodol newydd i’n traddodiad Cristnogol – a bydd Marian, ar ran y Pwyllgor Rheoli, yn cyflwyno hanes creu a datblygu Tŷ Croeso, Bethlehem Newydd. Y ddau gyfrannwr arall yw Cris Tomos a Hefin Wyn am achosion yn Sir Benfro. Fe’i cynhelir ym mhabell Cymdeithasau 1 am 3.00yp.

Byddwch yn ymwybodol o farwolaeth Mrs Gwen Thomas, un o’r anwylaf o’n haelodau. Cyfrannwyd £500 er cof amdani i Fethlehem Newydd gan ddiolch i’r teulu am gofio amdanom.

Cofion,

RGT