Gorffennaf 10fed
10/07/2026
Gyfeillion
“ A Haleliwia fydd y gân.”
Geiriau clo anerchiad Jeff Williams yn 2023 a rhai agoriadol Owain Llŷr Evans o gadair Undeb Annibynwyr Cymru yn 2026 wrth iddynt gael eu sefydlu yn Lywyddion yr enwad. Yn wir mae Owain Llŷr yn mynd ymlaen i aralleirio’r datganiad o ffydd trwy gyhoeddi; “Yn y dechreuad yr oedd y Gân, a’r Gân oedd gyda Duw, a Duw oedd y Gân.”
Mae Owain Llŷr yn mynd yn ei flaen i enwi caneuon addas ar gyfer rhai o gymeriadau’r Beibl. Beth am “ Chwarae’n Troi’n Chwerw” ar gyfer Adda ac Efa neu “Ymlaen mae Canaan” gan Steve Eaves ar gyfer Moses? Mae na ddewisiadau mwy egsotig ond dyw fy ngwybodaeth i o gerddoriaeth ddim mor eang a chynhwysfawr ag Owain Llŷr!
Ond gadewch inni droi at gonglfeini ein ffydd. Be wnewch chi o ‘I can see from Both Sides now” gan Joni Mitchell ar gyfer Iesu? Fyddai pawb ddim yn credu bod hynny yn addas ond mae’n apelio ata i! Byddai pawb yn cytuno bod “Cariad” gan Gwyneth Glyn yn gwbl addas ar gyfer Duw ac unrhyw gân sy’n cyfeirio at Anadl yn disgrifio gwaith yr Ysbryd Glân.
Fe allwn ni ei gadael hi yn y fan honno – fe aeth Owain Llŷr i gryn hwyl wrth wneud y cymariaethau hyn mewn anerchiad a barhaodd am bron i awr. Mae hynny yn ymddangos braidd yn hir i mi!
Ta beth, mae’r thema yn un ddiddorol – sut mae caneuon yn ein helpu i ddeall a gwerthfawrogi hanfodion ein ffydd? Pa gân sy’n gwneud hynny i chi a pham? Yn draddodiadol gofyn pa emyn sy’n gwneud hynny bydden ni.
Fe awgrymaf i rif 541 yng Nghaneuon Ffydd! Beth amdani – cytuno neu anghytuno? Beth bynnag mae’n siŵr y gallwn gytuno bod emynau yn ffordd effeithiol iawn o fynegi a gwerthfawrogi ein ffydd. Nid felly y buodd hi erioed serch hynny!
Diwygwyr y ddeunawfed ganrif fu’n gyfrifol am ganfod pwysigrwydd emynau i addoliad – Charles Wesley yn Lloegr a William Williams Pantycelyn yng Nghymru. Fe fuodd cystadleuaeth ymhlith diwygwyr Cymru i weld pwy allai gynhyrchu yr emynau mwyaf pwrpasol. Yn amlwg Pantycelyn oedd yn fuddugol – roedd ymdrechion Howell Harris yn ddifrifol o wael yn nôl pob sôn. Nid yn unig mae emynau Pantycelyn yn dreiddgar a mynd â ni at hanfod ein ffydd maen nhw cynnig ychydig o amrywiaeth ac ysgafnder i’n hoedfaon. Ond nid felly fuodd hi erioed. Doedd yr Anghydffurfwyr cynnar ddim yn croesawu canu a cherddoriaeth i’r oedfa. Bu’n dipyn o frwydr i gyflwyno piano heb sôn am organ i’w capeli.
Gallaf gymeradwyo anerchiad Owain Llŷr i chi. Fe fydd ar gael ar Wefan yr Undeb ac mae’r dewisiadau o ganeuon a cherddoriaeth yn ddifyr a threiddgar.
Cawsom y cyfle i ymweld â Phantycelyn ar bererindod rhai blynyddoedd yn ôl ac eleni byddwn yn mynd i Eglwys Llandeilo sydd â’i harwyddocâd cerddorol ei hunan.
Y Sul nesaf cawn gyfle i ymuno fel Cyfundeb i addoli mewn dull gwahanol a hwyliog.
Dyna ystyr Pererindod a Sul Sbesial – dathlu’r gorffennol a mentro i’r dyfodol.
Cyhoeddiadau
Dydd Sul am 2.00yp Sul Sbesial yn Ysgol Griffith Jones. Bydd Rhian Evans yn rhoi’r anerchiad. Bethlehem a Gibeon sy’n gyfrifol am y baned!
Gorffennaf 19eg: Pererindod gyda’r Tabernacl – anelu at gyrraedd eglwys Llandeilo toc wedi 10.30 – y gwasanaeth yn dechrau am 11.00. Cinio i ddilyn yn Rhosmaen am 12.45
Gorffennaf 26ain: Gwasanaeth yn yr awyr agored yn Gibeon – dewch â phicnic.
Diolch i chi am eich cyfraniadau at Apêl DEC i drychineb Venezuela – codwyd y swm o £600, yn cynnwys £200 o gyfraniad y capel.