Ebrill 24ain
24/04/2026
Gyfeillion
Er ein bod ychydig yn hwyr yn olrhain hanes yr atgyfodiad dyma droi at y ddau oedd ar eu ffordd gartre o Jerwsalem i Emaus ychydig ddiwrnodau ar ôl y croeshoeliad. Roedd y gwragedd wedi bod at y bedd a’i ganfod yn wag. Aethant at y disgyblion i’w hysbysu o hyn ond doedden nhw ddim yn eu credu. Cyfeirir at Cleopas a’i gydymaith heb ei enwi. Pam ddim?
Tybed ai Mrs Cleopas oedd yn cyd-gerdded ag e? Bydde trip i’r brif ddinas ar gyfer Gŵyl y Bara Croyw siŵr o fod wedi apelio ati. Cyfle i fod yn rhan o’r holl fwrlwm wrth i Iddewon o bob man deithio i Jerwsalem i ddathlu eu Gŵyl bwysicaf. Cyfle i gwrdd â chyfeillion hen a newydd a hyd yn oed i wneud bach o siopa! Mae hynny’n swnio’n debyg i’r Steddfod Genedlaethol imi! Ond os felly pam ddim ei henwi? Er bod hynny yn ymddangos bach yn od inni doedd gwragedd ar y pryd ddim yn cael eu cydnabod yn eu hawl eu hunain ond fel eiddo eu gwŷr – hynny yw baggage! Felly nid yw’n amhosib taw hi oedd yn gydymaith.
A beth am Cleopas ei hunan – pwy oedd e? Dyma’r unig gyfeiriad ato yn y Testament Newydd. Wel, os nad i chi isie mynd i ddadlau am sillafiad ei enw yn Aramaeg, Hebraeg a Groeg! Gellid dadlau ei fod yr un â Clopas oedd yn perthyn i Mair a Joseff – rhieni Iesu. Byddai hynny yn esbonio’r gred taw Mrs Clopas oedd y drydedd Mair a ddaeth at y bedd gwag ynghyd â Mair Magdalen a Mair mam Iesu. Roedd na rhyw foi arall o’r enw Cleofas – ond ma hynny yn gor-gymhlethu pethau.
Y peth pwysig yw y cyfeirir at Cleopas fel disgybl i Iesu. Eto i gyd doedd e ddim wedi ‘nabod Iesu pan ymunodd hwnnw â nhw ar eu taith gartre er eu bod yn trafod y rhyfeddodau oedd wedi digwydd – hynny yw y croeshoeliad a’r atgyfodiad. Wrth iddo dorri bara wedi iddo dderbyn eu gwahoddiad i swpera gyda hwy y digwyddodd hynny. Onid yw’n od i ddisgybl beidio ag adnabod ei athro hyd yn oed ar ôl i hwnnw atgyfodi!
Mae hyn yn codi’r cwestiwn am y gwahaniaeth rhwng disgybl i Iesu ac un o’i ddilynwyr. Gellir bod yn ddilynwr heb adnabod yr athro yn llawn ond byddai disgybl yn siŵr o wneud. Un o’r galwadau amlycaf a wnaeth Iesu i’w ddisgyblion oedd i ymdebygu iddo ef. Cerwch eich gilydd fel y cerais i chwi.
Yn ddiweddar gosododd Donald Trump (ie, dw i’n cofio imi ddweud na fyddwn yn cyfeirio ato rhagor) lun ar ei gyfrif ar lein yn darlunio ei hun fel y Crist. Mae rhai yn y cyrddau gweddi boreol yn y Tŷ Gwyn yn honni fod Duw wedi ei alw i gyflawni gwaith arbennig yn ei Enw. Cabledd os bu y fath beth erioed. Does na neb yn llai tebyg i Iesu Grist na Trump. Yn wir byddai rhai yn dadlau mai cymharu ei hunan â’r diafol ddylai wneud!!!!
Gallwn honni – bob un ohonom – ein bod yn fwy tebyg i Iesu na Trump. Dydy hynny wrth gwrs ddim yn golygu ein bod ni yn ymdebygu iddo.
O ie, yr ateb i’r cwestiwn yr wythnos diwethaf – ble cyfeirir at Iesu yn ymddangos i bum cant ar ôl yr atgyfodiad ?
1Corinthiad15:6. Os oes angen eich cysuro doeddwn i ddim yn gwybod hynny chwaith nes imi fynd i chwilio!!
Cyhoeddiadau:
Y Sul hwn – am** 2.00yp gyda’r Parch Ddr Euros Jones Evans yn gwasanaethu a the prynhawn i ddilyn i ddathlu penblwyddi arbennig ambell un!
Suliau mis Mai:
Mai 3ydd: Parch Robin Samuel
Mai 10fed: Tudur Dylan – eto am 2.00yp**
Mai 17eg: Oedfa aelodau a bydd cyfeillion o Gasblaidd yn ymuno â ni. Mae nifer ohonoch wedi gwirfoddoli i gymryd rhan – diolch.
Mai 25ain: Catrin Isaac Thomas– penderfynwyd y Sul diwethaf yn Gibeon i’w gynnal ym Methlehem Newydd yn hytrach na Gibeon fel sydd yn yr Adroddiad.
Mai 31ain: Parch John Gwilym Jones
- Mae capel y Tabernacl Hendy Gwyn wedi holi am ein pererindod blynyddol ar y cyd i’w gynnal ar Orffennaf 19eg – rhowch wybod os yn awyddus i fynd – i gyfeiriad Llandeilo o bosibl i wasanaeth a chinio.
- Mae’r Lloches hefyd wedi cysylltu yn holi a fedrwn gasglu rhai nwyddau glanhau iddynt megis sebon golchi dillad/llestri; hylif glanhau/ diheintio megis dettol; shampw/ conditioner.
- Diolch i bawb a gynorthwyodd gyda threfnu’r Sioe Ffasiynau gan lwyddo i godi swm sylweddol o £1550 tuag at Ymchwil Cancr Cymru, sef apêl llywydd Merched y Wawr, Bethan Picton Davies.
- Byddwn yn ceisio codi arian at apêl blynyddol Cymorth Cristnogol fis nesaf ac fel rhan o hynny cynhelir cyngerdd ar nos Wener, Mehefin 5ed gyda Chôr Meibion Hendy Gwyn a’r cylch.