Chwefror 6ed
6/02/2026
Gyfeillion
Faint ohonoch gafodd lyfr yn anrheg Nadolig? Dyw llyfr ddim wrth ddant pawb. Ond mae’n ddigon derbyniol gen i – wel mae’n dibynnu beth yw’r llyfr wrth reswm! Pan oeddwn yn blentyn os nad oedd llyfr am bêl droed neu rygbi doedd dim croeso iddo. Mae’n bwysig cofio yn y fan hyn am eiriau’r Apostol Paul “Pan oeddwn yn blentyn fel…” Os nad ydych yn gyfarwydd â’r adnod mae i’w chael yn 1af Corinthiaid 13..1. Ta beth, eleni fe ges i ddau lyfr yn anrhegion – dw i wedi darllen un ond ddim y llall. Doedd dim un ohonyn am chwaraeon gyda llaw!
Wedi dweud hynny i gyd dw i am eich cyfeirio chi at lyfr arall – anrheg i fy ngwraig! Na nid fi brynodd e – hi wnaeth fel mae’n digwydd bod. Ffordd dda o gael rhywbeth ych chi mo’yn a llai o drafferth imi. Almanac o Fis i Fis- cyfrol gan fam a thair o’i merched o Sir Gaerfyrddin yw hi. Tybed faint ohonoch sy’n gwybod beth yw Almanac? Rhyw fath o flwyddiadur yw e – er nad yw’r gyfrol hon yn cyfeirio at unrhyw flwyddyn arbennig. Mae’n mynd â ni o fis i fis gan gyfeirio at ffeithiau diddorol.
O droi at fis Chwefror cawn wybod bod y 1af o Chwefror hanner ffordd rhwng Calan Gaeaf a Chalan Mai. Mae’r ail o Chwefror yn Ŵyl Fair y Canhwyllau sy’n cael ei chyfrif yn bwysig iawn yn yr Eglwys os nad o fewn y traddodiad anghydffurfiol. Ar nodyn ysgafnach cyfeirir at wneud pancots – na nid fi sy wedi cam sillafu! Mae’n arferiad ar ddydd Mawrth Ynyd. Mae arferion o’r traddodiad paganaidd yn cael eu cynnwys hefyd. Beth am dwlu gwydr cwrw dros eich ysgwydd – ar ôl ei wacáu wrth reswm. Os yw’n glanio ben i fyny gwyn eich byd ond druan ohonoch os yw ben i waered. Ond gwell troi at bethau mwy sylweddol.
Mae’n ein hysbysu bod gwynt o’r gogledd neu’r dwyrain yn ei gwneud hi’n fis oer iawn. Nid bod angen dweud hynny wrthym ni. Mae na bosibilrwydd o eira ar y ffordd. Ond na phoenwch mae’r gwanwyn ar y gorwel. Mae hynny a chant a mil o gyfeiriadau difyr eraill i’w cael yn y gyfrol. Os ych chi am wybod mwy prynwch y gyfrol.
Wrth reswm y cyfeiriadau Cristnogol sy o ddiddordeb imi ac yn berthnasol i’r cylchlythyr hwn. Felly yn ôl â ni at Ŵyl y Canhwyllau sy bron â mynd yn angof. Arferid bendithio Canhwyllau a gorymdeithio yn eu golau. Erbyn hyn cyfeirir ati fel Gŵyl Mair sy’n cyfuno’r rhybudd o aeaf farw a’r gobaith am ddyfodiad y gwanwyn.
Mae’r ŵyl i’w chynnal ddeugain niwrnod ar ôl y Nadolig ac yn cofnodi y Crist yn cael ei gyflwyno yn y deml gan ei rieni a’i ddyfodiad yn cynnig goleuni i fywyd pob un. Y gannwyll sy’n symbol o hynny ac yn cael ei gysylltu â Mair Forwyn – mam Iesu. Gŵyl i godi calon a chynnig goleuni yng nghanol tywyllwch y byd a’i bryderon a gobaith i bob un ohonom trwy ofal a thrugaredd Duw y Tad ynghyd ag arweiniad y Crist y mab a phresenoldeb a chwmni yr Ysbryd Glân.
Cyhoeddiadau:
Chwefror 8fed: Y Parch Euros Jones Evans. Bethlehem Newydd.
Chwefror 15fed: Oedfa Gymun dan arweiniad yr aelodau: Gibeon.
Mae’r tocynnau i’r swper Gŵyl Dewi wedi’u gwerthu i gyd! Os am gyfrannu treiffl – rhowch wybod os gwelwch yn dda!
Mae Coda ni yn dod i gasglu dillad wythnos nesa – mae rhai yn yr ysgoldy yn barod mae’n debyg– felly os am waredu dillad dewch â nhw fore Sul neu fore dydd Mawrth nesa. Mae’r rhybudd yn fyr y tro hwn ond fe drefnwn gasgliad eto mae’n siŵr eto rywbryd.