Awst 28ain
Gyfeillion
Ni dderbyniais unrhyw ymateb i gylchlythyr wythnos diwethaf. Nid yw hynny yn gwbl anarferol – gan mai ychydig sy’n gwneud hynny ar y gorau. Yr hyn sy’n fy mhoeni yw fod nifer o gwestiynau sylfaenol ynglŷn â’r ffordd ymlaen. Mae na bendraw i faint o benderfyniadau y gallaf eu gwneud heb fewnbwn gan eraill er fy mod yn ddigon hapus i wneud hynny ar adegau! Edrychwch eto os gwelwch yn dda!
Ta beth bydd yr oedfa dydd Sul yn Gymundeb gweddol draddodiadol. Ond bydd cyfle i edrych yn ôl dros y ddegawd diwethaf yn hanes y capel. Cyfnod hynod o gyffrous. Bu cynllunio a pharatoi yn ystod y pum mlynedd cyntaf a gweithredu ar sail hynny yn ystod yr ail bum mlynedd.
Llwyddwyd i osod sylfaen ariannol yn y cyfnod cyntaf trwy werthu Capel Mair ac Elim. Roedd gwneud hynny yn galw am benderfyniadau anodd a gweledigaeth glir. Roedd hefyd yn gyfnod poenus o hir – dydy cyfreithwyr a gweinyddwyr ddim yn bobl rhwydd i weithio gyda nhw. Yn sicr dydyn nhw ddim yn credu mewn rhuthro’r gwaith! I’r gwrthwyneb maen nhw’n boenus o lafurus.
Yn ystod yr ail gyfnod llwyddwyd i ddenu yn agos at £200,000 trwy ffynonellau allanol. Eto mae’r gwaith gweinyddol o wneud cais a chyfiawnhau’r gwariant yn galw am amynedd a dyfalbarhad. Y gyfrinach gyda grantiau yw peidio gadael i natur y cymhorthdal gyfeirio’ r gweithgaredd.
Yn ffodus daeth y ddau gymhorthdal mwyaf oddi wrth Undeb yr Annibynwyr. Yn ffodus gyda’r rhain ni oedd yn rheoli natur a chyfeiriad y gweithgaredd. Cawsom benodi Swyddog Cymunedol am bum mlynedd ac erbyn hyn Swyddog Digidol am dair blynedd. Buom yn hynod o ffodus yn y penodiadau. Tua diwedd ei chyfnod cafodd Annalyn ei tharo gan anhwylder creulon. Nid yw’n hwylus ar hyn o bryd a dymunwn y gorau iddi.
Yr allwedd i lwyddiant y gweithgaredd Cymunedol oedd brwdfrydedd cydwybodol y gwirfoddolwyr dan arweinyddiaeth Annalyn. Unwaith eto mae cyfle i bawb gyfrannu at y gweithgareddau. Ond mae angen i chi i gyd ymateb yn y lle cyntaf!
Dros y tair oedfa nesaf bydd cyfle i chi bwyso a mesur yr hyn a gyflawnwyd a’r hyn y gallwch wneud er mwyn cyfrannu at yr hyn sydd i ddilyn.
Ar gyfer y wythnosau nesaf. Mae angen rhywun i gofnodi oedfa y 6ed, cyhoeddi ar y 13eg ac o bosib gyfeilio ar yr organ ar y 27ain.
Edrychaf ymlaen i glywed gan wirfoddolwyr!
Cyhoeddiadau:
Awst 30ain: Oedfa Gymun. Bethlehem Newydd.
Medi 6ed: Oedfa Ddigidol. Bethlehem Newydd.
Medi 10fed: Cwrdd Chwarter yn Hermon Cynwyl Elfed am 4.00yp – Gweler isod. Mae’n sicr y byddai gwrando ar gyflwyniad gan rai o gapel Efailisaf yng nghyfarfod yr hwyr am 7.00 yn fodd i’n hysbrydoli.
Medi 13eg: Oedfa Aelodau. Bethlehem Newydd.
Medi 20fed: Gibeon.
Ac ambell beth arall:
- Byddwn yn casglu dillad i Coda Ni ddiwedd mis Medi felly ewch ati i glirio cypyrddau! Bydd angen gwirfoddolwyr ar gyfer y ddau fore Sadwrn 26/09 a 3/10 i dderbyn y dillad.
- Cynhelir Bore Coffi Macmillan yn Croeso Cynnes Medi 29ain. Bydd angen stondinau!
- Mae’r Lloches wedi cysylltu oherwydd prinder nwyddau golchi ac ymolchi ac addawyd ymateb erbyn diwedd mis Medi – felly dewch â’ch cyfraniadau os gwelwch yn dda.
Cwrdd Chwarter Hermon
Y GYNHADLEDD AM 4 o’r gloch
Hanes diweddar yr Achos a Defosiwn gan Aelodau Hermon
Agenda
- Ymddiheuriadau
- Cofnodion Cwrdd Chwarter – Dydd Iau, Mai 14eg, 2026, yng Nghapel Gibeon
- Materion yn codi (nad ydynt ar yr Agenda)
- Gohebiaeth -gweler y llythyr atodiedig oddi wrth Cynnal
- Derbyn Adroddiadau: (i) MIC – Suzanne Davies, (ii) Cymorth Cristnogol/Pwyllgor Bugeiliol – Parchg Tom Defis, (iii) Masnach Deg – Anne Loughran (iv) Pwyllgor Cenhadol – Annalyn Davies/Joan Thomas (vii) Swyddog Cyhoeddusrwydd y Cyfundeb – Alun Lenny
- Adroddiad y Trysorydd – Y Parchg Tom Dafis
- Adroddiad Cefnogi Cyfle
- Y Sul Sbesial
- Penderfyniadau Cwrdd Chwarter Capel Gibeon
- Gwahodd cynrychiolydd o Gapel y Priordy i estyn gair o groeso i’r Cyfundeb ar Dachwedd 26ain 2026 (y Gynhadledd am 10.30yb a’r Cyfarfod am 1.30yp)
- Atgoffa am leoliadau Cyrddau Chwarter a Phwyllgorau Gwaith 2026/2007
- Unrhyw Fater Arall
TORIAD A LLUNIAETH YSGAFN
CYFARFOD YR HWYR AM 7 0’R GLOCH
Y Cadeirydd – Y Parchedig Gareth Ioan
- Anerchiad gan Aelodau o Gapel y Tabernacl, Efailisaf, Pontypridd