Awst 21ain
Gyfeillion
Croeso yn ôl. Daeth yn amser i ail-afael yn y cylchlythyr. Wedi mis tawel mae’n bryd i gymryd at yr awenau unwaith yn rhagor. Diolch am y rhai fu’n cadw drws y capel ar agor yn ystod mis Awst. Ond wrth gwrs dyna godi dau gwestiwn sy’n ymddangos ar y wyneb i fod yn wrthgyferbyniol.
1. A ddylem gynnal gweithgareddau ganol wythnos yn ystod mis Awst?
2. A ddylem gynnal oedfaon yn ystod mis Awst?
Wrth gwrs yr opsiwn arall ydy cadw pethau fel maent ar hyn o bryd. Byddai’n dda clywed eich barn – er y byddai hynny’n groes i’r arfer! Ta beth cawn gyfle i ystyried hynny a nifer o bethau eraill dros y wythnosau eraill.
Prif bwrpas y cylchlythyr yma yw eich hatgoffa taw wythnos i ddydd Sul (30ain o Awst) fydd yr oedfa gyntaf o dymor yr Hydref. Bydd cyfle i edrych yn ôl dros y bum mlynedd diwethaf a’r daith y buom arni fel cymuned o gredinwyr.
1. A ydym wedi mynd i’r cyfeiriad cywir?
2. A ydym wedi teithio yn rhy gyflym neu rhy araf?
Digon o gwestiynau am y tro – ond mae llawer iawn mwy y dylid ei ystyried a’i drafod. Felly cylchlythyr byr iawn! Cwestiwn arall felly:
A ydy’r cylchlythyr dros y blynyddoedd diwethaf wedi bod rhy hir – a ddylai gynnwys gwybodaeth yn unig?
Cofiwch ddychwelyd i’r oedfa ar y 29ain o Awst – Oedfa Gymun i roi cychwyn ar wasanaethau’r Hydref!
Cyhoeddiadau:
Medi’r 30ain: Oedfa Gymun Bethlehem Newydd 10.30
Medi 6ed: Oedfa ddigidol – Ddoe a Heddiw. Bethlehem Newydd.
Medi 13eg: Oedfa dan arweiniad yr aelodau. Bethlehem Newydd.
Medi 20fed: Gibeon 10.30.
Ac ambell beth arall:
- Byddwn yn casglu dillad i Coda Ni ddiwedd mis Medi felly ewch ati i glirio cypyrddau!
- Cynhelir Bore Coffi Macmillan yn Croeso Cynnes Medi 29ain. Bydd angen stondinau!
- Mae’r Lloches wedi cysylltu oherwydd prinder nwyddau golchi ac ymolchi ac addawyd ymateb erbyn diwedd mis Medi – felly dewch â’ch cyfraniadau os gwelwch yn dda.