Dyrchafaf fy llygaid i’r mynyddoedd
Ar raglen radio Desert Island Discs ym mis Mehefin eleni cafodd yr Arglwydd Alf Dubs ei gyfweld a chael dewis wyth record.
Fe gyrhaeddodd Lundain yn 1939 ar drên o Czechosolovakia yn blentyn, yn un o’r plant a achubwyd gan Sir Nicholas Winton rhag y Natsïaid. Roedd Nicholas Wiston yn stockbroker ifanc yn Llundain ac fe aeth i Prâg a threfnu trenau i ddod â 669 o blant, y mwyafrif yn Iddewon er mwyn dianc rhag y Natsïaid cyn dechrau’r Ail Ryfel Byd. Ar ôl iddynt gyrraedd Llundain roedd yn rhaid iddo ddod o hyd i rieni maeth ar gyfer yr holl blant gyda mynydd o waith papur.
Roedd Alf Dubs yn un o’r plant hynny ac fe ddaeth yn aelod seneddol Llafur 1979 -1987 ac wedyn daeth yn gyfarwyddwr Cyngor y Ffoaduriaid – y Refugee Council.
Bu’n gyfrifol am welliant i ddeddf i dderbyn 3,000 o blant sy’n ffoaduriaid i ddod i Brydain heb neb gyda hwy – unaccompanied refugee children. Pasiwyd y ddeddf – y Dubs Amendment – ond blwyddyn yn ddiweddarach fe stopiwyd hynny a dim ond 480 o blant gafodd ddod o ganlyniad i’w ymdrechion ac nid y tair mil fel roedd wedi’i fwriadu.
Ar y rhaglen mae’n cyfeirio at un o’r 480 – plentyn o Syria a welodd ei dad yn cael ei chwythu i fyny o’i flaen yn Aleppo – a fydd wedi’i greithio am oes ac mae angen deall meddai yr hyn maent wedi dianc rhagddo.
Ar ddiwedd y rhaglen mae’n cael dewis ei hoff ddisg, un llyfr ac un peth arall – un luxury. Mae Alf Dubs yn dewis esgidiau cerdded ac yntau yn dal i fynydda yn ei nawdegau. Dyma’r hyn a ddywedodd wrth egluro ei hoffter o fynydda:
Mil o droedfeddi i fyny mae problemau’r byd yn ymddangos yn eitha’ bach.
Dwy fil o droedfeddi i fyny ac mae’r problemau yn fach iawn.
Tair mil o droedfeddi – pa broblemau!
Thousand feet up the problems of the world appear fairly small.
Two thousand feet up the problems are tiny.
Three thousand feet up – what problems!
Gadewch i ninnau ddringo mynyddoedd y Beibl yn ein gwasanaeth y bore ‘ma ar ôl ein hemyn cyntaf:
Emyn: 120 Disgwyliaf o’r mynyddoedd draw…
Yn y Beibl mae mynyddoedd yn llefydd arwyddocaol ble mae’r nefoedd a’r ddaear yn cwrdd, yn symbol o’r dwyfol, o ddatguddiad ac o’r daith tuag at adnabod Duw a derbyn ei ddoethineb a’i arweiniad. Maent yn lleoliad nifer o ddigwyddiadau allweddol.
Yn Llyfr Genesis mae Arch Noa yn glanio ar Fynydd Ararat. Ar ôl y dilyw dywedir fel hyn:
Dechreuodd y dŵr fynd i lawr. Bum mis union ar ôl i’r dilyw ddechrau, glaniodd yr arch ar fynyddoedd Ararat. Ddau fis a hanner wedyn, wrth i’r dŵr ddal i fynd i lawr o dipyn i beth, daeth rhai o’r mynyddoedd eraill i’r golwg.
Yn Llyfr Genesis hefyd mae hanes Duw yn profi ffydd Abraham:
“Abraham!” meddai Duw. “Ie, dyma fi,” atebodd Abraham. Ac meddai Duw wrtho, “Plîs, cymer dy fab Isaac – yr unig fab sydd gen ti, yr un rwyt ti’n ei garu – a dos i ardal Moreia. Yno dw i am i ti ei ladd a llosgi ei gorff yn offrwm ar un o’r mynyddoedd. Bydda i’n dangos i ti pa un.”…
Ar ôl cyrraedd y lle roedd Duw wedi sôn amdano, dyma Abraham yn adeiladu allor yno, ac yn gosod y coed ar yr allor. Wedyn dyma fe’n rhwymo ei fab Isaac ac yn ei roi i orwedd ar ben y coed ar yr allor. Gafaelodd Abraham yn y gyllell, ac roedd ar fin lladd ei fab. Ond dyma angel yr ARGLWYDD yn galw arno o’r nefoedd, “Abraham! Abraham!” “Ie? Dyma fi,” meddai Abraham. “Paid cyffwrdd y bachgen, na gwneud dim byd iddo. Dw i’n gwybod bellach dy fod ti’n ddyn sy’n parchu Duw. Roeddet ti hyd yn oed yn fodlon aberthu dy fab i mi – yr unig fab sydd gen ti.” Gwelodd Abraham hwrdd y tu ôl iddo. Roedd cyrn yr hwrdd wedi mynd yn sownd mewn drysni. Felly dyma Abraham yn cymryd yr hwrdd a’i losgi yn offrwm i Dduw yn lle ei fab. Galwodd Abraham y lle yn “Yr ARGLWYDD sy’n darparu”. Mae pobl yn dal i ddweud heddiw, “Mae’r ARGLWYDD yn darparu beth sydd ei angen ar ei fynydd.”
Mae Mynydd Sinai yn symbol o’r cyfamod â Duw, ble mae Moses yn derbyn y Deg Gorchymyn. Fel hyn mae pennod 19 o Lyfr Ecsodus yn dechrau:
Ddau fis union ar ôl iddyn nhw adael yr Aifft, dyma bobl Israel yn cyrraedd Anialwch Sinai. Roedden nhw wedi teithio o Reffidim i Anialwch Sinai, a gwersylla yno wrth droed y mynydd. Yna dyma Moses yn dringo i fyny’r mynydd i gyfarfod gyda Duw, a dyma’r ARGLWYDD yn galw arno o’r mynydd….
Dau ddiwrnod wedyn, yn y bore, roedd yna fellt a tharanau, a daeth cwmwl trwchus i lawr ar y mynydd. Ac roedd sŵn nodyn hir yn cael ei seinio ar y corn hwrdd. Roedd y bobl i gyd yn crynu mewn ofn. Dyma Moses yn arwain y bobl allan o’r gwersyll i gyfarfod Duw, a dyma nhw’n sefyll wrth droed y mynydd.
Roedd mwg yn gorchuddio Mynydd Sinai, am fod yr ARGLWYDD wedi dod i lawr arno mewn tân. Roedd y mwg yn codi ohono fel mwg o ffwrnais fawr, ac roedd y mynydd yn crynu drwyddo. Roedd sŵn y corn hwrdd yn uwch ac yn uwch drwy’r adeg. Roedd Moses yn siarad, a llais Duw yn ei ateb yn glir.
Cyn ei farw mae Moses yn dringo mynydd Nebo a cheir yr hanes hwnnw ar ddiwedd Llyfr Deuteronomium.
Seion yw’r mynydd sanctaidd yn Salm 48. Yno mae’r brenin Solomon yn adeiladu’r deml. Yn Salm 43 mae’r mynydd yn symbol o fawredd Duw:
Rho dy olau i mi, gyda dy wirionedd, i’m harwain.
Byddan nhw’n dod â fi yn ôl at y mynydd sanctaidd lle rwyt ti’n byw.
Bydda i’n cael mynd at allor Duw, y Duw sy’n fy ngwneud i mor hapus.
Bydda i’n dy foli di gyda’r delyn, O Dduw, fy Nuw.
F’enaid, pam wyt ti’n teimlo mor isel? Pam wyt ti mor anniddig?
Rho dy obaith yn Nuw! Bydda i’n moli Duw eto am iddo ymyrryd i’m hachub i!
Yn Llyfr cyntaf Brenhinoedd y mae hanes Elias yn dringo Mynydd Carmel lle mae Duw yn rhoi iddo nerth goruwchnaturiol iddo ddadlau gyda phroffwydi Baal.
Cyn gadael yr Hen Destament gadewch i ni gyd-ddarllen fersiwn Beibl.net o Salm: 121 – Dyrchafaf fy llygaid i’r mynyddoedd o ble y daw fy nghymorth…
Yr ARGLWYDD sy’n gofalu amdanat
Dw i’n edrych i fyny i’r mynyddoedd.
O ble daw help i mi?
Daw help oddi wrth yr ARGLWYDD,
yr Un wnaeth greu y nefoedd a’r ddaear.
Fydd e ddim yn gadael i dy droed lithro;
dydy’r Un sy’n gofalu amdanat ddim yn cysgu.
Wrth gwrs! Dydy’r un sy’n gofalu am Israel
ddim yn gorffwys na chysgu!
Yr ARGLWYDD sy’n gofalu amdanat ti;
mae’r ARGLWYDD wrth dy ochr di
yn dy amddiffyn di.
Fydd yr haul ddim yn dy lethu di ganol dydd,
na’r lleuad yn effeithio arnat ti yn y nos.
Bydd yr ARGLWYDD yn dy amddiffyn rhag pob perygl;
bydd yn dy gadw di’n fyw.
Bydd yr ARGLWYDD yn dy gadw di’n saff
ble bynnag ei di,
o hyn allan ac am byth.
Fe awn nawr i’r Testament Newydd. Enwir saith mynydd yn Efengyl Mathew.
Ni chawn wybod enw’r mynydd lle y pregethodd yr Iesu – y bregeth ar y mynydd sy’n dechrau fel hyn:
Pan welodd Iesu yr holl dyrfaoedd, aeth i fyny i ben y mynydd. Pan eisteddodd i lawr, daeth ei ddilynwyr ato, a dechreuodd eu dysgu, a dweud:
“Mae’r rhai sy’n teimlo’n dlawd ac annigonol wedi’u bendithio’n fawr, oherwydd mae’r Un nefol yn teyrnasu yn eu bywydau.
Mae’r rhai sy’n galaru wedi’u bendithio’n fawr, oherwydd byddan nhw’n cael eu cysuro.
Mae’r rhai addfwyn sy’n cael eu gorthrymu wedi’u bendithio’n fawr, oherwydd byddan nhw’n etifeddu’r ddaear.
Mae’r rhai sy’n llwgu a sychedu am gyfiawnder wedi’u bendithio’n fawr, oherwydd byddan nhw’n cael eu bodloni’n llwyr.
Mae’r rhai sy’n dangos trugaredd wedi’u bendithio’n fawr, oherwydd byddan nhw’n cael profi trugaredd eu hunain.
Mae’r rhai sydd â chalon bur wedi’u bendithio’n fawr, oherwydd byddan nhw’n cael gweld Duw.
Mae’r rhai sy’n hyrwyddo heddwch wedi’u bendithio’n fawr, oherwydd byddan nhw’n cael eu galw’n blant Duw.
Mae’r rhai sy’n dioddef erledigaeth am eu bod yn byw’n gyfiawn wedi’u bendithio’n fawr, oherwydd mae’r Un nefol yn teyrnasu yn eu bywydau.
Pan fydd pobl yn eich sarhau chi, a’ch erlid, ac yn dweud pethau drwg amdanoch chi am eich bod yn perthyn i mi, rydych chi wedi’ch bendithio’n fawr! Byddwch yn llawen! Mwynhewch er gwaetha’r cwbl, achos mae gan Dduw yn y nefoedd wobr fawr i chi.
Ceir hanes y gweddnewidiad ym mhennod 17 a chredir mai ar fynydd Tabor neu fynydd Hermon y digwyddodd hynny.
Llefarydd: Chwe diwrnod wedyn aeth Iesu i ben mynydd uchel, a mynd â Pedr, Iago ac Ioan (brawd Iago) gydag e. Dyma olwg Iesu’n cael ei drawsnewid o flaen eu llygaid – roedd ei wyneb yn disgleirio fel yr haul, a throdd ei ddillad yn wyn llachar fel golau. Wedyn dyma Moses ac Elias yn ymddangos, yn sgwrsio gyda Iesu….
Iesu: Pam ydych chi mor ystyfnig ac amharod i gredu? Am faint dw i’n mynd i aros gyda chi? Am faint alla i’ch dioddef chi?
Llefarydd: Mae’r Iesu yn iachau bachgen a’r disgyblion yn gofyn iddo:
Disgybl: Pam oedden ni’n methu ei fwrw allan?
Iesu: Am eich bod chi’n credu cyn lleied. Credwch chi fi, petai’ch ffydd chi mor fach â hedyn mwstard, gallech chi ddweud wrth y mynydd yma, ‘Symud i’r fan acw’ a byddai’n symud. Fyddai dim byd yn amhosib i chi.
Llefarydd: Dyna yw grym ffydd – yn medru gorchfygu rhwystrau, symud mynyddoedd.
Llefarydd: Cyn gweinyddu sacrament y Cymun gadewch i ni atgoffa ein hunain o ddrama’r Swper Olaf:
Ar ddiwrnod cyntaf Gŵyl y Bara Croyw, gofynnodd y disgyblion i Iesu:
Disgybl: Ble rwyt ti am fwyta swper y Pasg i ni fynd i’w baratoi?
Llefarydd: Dwedodd yntau:
Iesu: Ewch i’r ddinas at hwn a hwn, Dwedwch wrtho: ‘Mae’r athro’n dweud fod yr amser wedi dod. Mae am ddathlu’r Pasg gyda’i ddisgyblion yn dy dŷ di.’
Llefarydd: Felly dyma’r disgyblion yn gwneud yn union fel roedd Iesu wedi dweud wrthyn nhw, a pharatoi swper y Pasg yno. Yn gynnar y noson honno eisteddodd Iesu wrth y bwrdd gyda’r deuddeg disgybl. Tra oedden nhw’n bwyta, meddai wrthyn nhw:
Iesu: Wir i chi, mae un ohonoch chi’n mynd i’m bradychu i.
Llefarydd: Roedden nhw’n drist iawn, ac yn dweud wrtho, un ar ôl y llall,
Disgybl: Meistr, dim fi ydy’r un, nage?
Iesu: Bydd un ohonoch chi’n fy mradychu i – un sydd yma, ac wedi trochi ei fwyd yn y ddysgl saws gyda mi. Rhaid i mi, Mab y Dyn, farw yn union fel mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud. Ond gwae’r un sy’n mynd i’m bradychu i! Byddai’n well arno petai erioed wedi cael ei eni!
Llefarydd: Dyma Jwdas, yr un oedd yn mynd i’w fradychu, yn dweud,:
Jwdas: Rabbi, dim fi ydy’r un, nage?
Llefarydd: Tra oedden nhw’n bwyta, dyma Iesu’n cymryd torth, ac yna, ar ôl adrodd y weddi o ddiolch, ei thorri a’i rhannu i’w ddisgyblion.
Iesu: Cymerwch y bara yma, a’i fwyta, Dyma fy nghorff i.
Llefarydd: Yna cododd y cwpan, adrodd y weddi o ddiolch eto, a’i basio iddyn nhw, a dweud:
Iesu: Yfwch o hwn, bob un ohonoch chi. Dyma fy ngwaed, sy’n selio ymrwymiad Duw i’w bobl. Mae’n cael ei dywallt ar ran llawer o bobl, i faddau eu pechodau nhw. Wir i chi, fydda i ddim yn yfed y gwin yma eto nes daw’r dydd y bydda i’n ei yfed o’r newydd gyda chi pan fydd fy Nhad yn teyrnasu.
Llefarydd: Wedyn, ar ôl canu emyn, dyma nhw’n mynd allan i Fynydd yr Olewydd.
Gadewch i ninnau droi ein hwynebau at y groes ar Galfaria yn emyn Dyfed – sef:
Emyn rhif 496 cyn gweinyddu’r sacrament gyda’r pennill olaf – Dringo’r mynydd ar fy ngliniau…
Cymun:
Gweddi:
Yn y llythyr at yr Hebreaid mae’r awdur yn rhybuddio rhag gwrthod Duw. Mae’n cyfeirio at fynyddoedd sanctaidd yr Hen Destament:
Gwnewch eich gorau glas i fyw mewn perthynas dda gyda phawb, ac i fyw bywydau glân a sanctaidd. Dim ond y rhai sy’n sanctaidd fydd yn cael gweld yr Arglwydd. Gwyliwch bod neb ohonoch chi’n colli gafael ar haelioni rhyfeddol Duw. Os ydych chi’n gadael i wreiddyn chwerwdyfu yn eich plith chi, gallai hynny greu problemau ac amharu ar lawer o bobl yn yr eglwys. Gwyliwch rhag i rywun wrthgilio a throi’n annuwiol…
Yn wahanol i bobl Israel, dydych chi ddim wedi dod at bethau y gallwch eu teimlo – mynydd gyda thân yn llosgi arno, tywyllwch, caddug a storm wyllt. Does dim sŵn utgorn, na llais i’ch dychryn chi, fel llais Duw pan oedd yn siarad yn Sinai… Roedd y bobl yn crefu ar i Dduw stopio siarad yn uniongyrchol â nhw.Roedd y gorchymyn yn ormod iddyn nhw ei oddef: “Os bydd hyd yn oed anifail yn cyffwrdd y mynydd rhaid ei ladd drwy daflu cerrig ato nes iddo farw.” Roedd y cwbl mor ofnadwy o ddychrynllyd nes i Moses ei hun ddweud, “Dw i’n crynu drwyddo i mewn ofn.”
Na! At Fynydd Seion rydych chi wedi dod – sef at ddinas y Duw byw! Dyma’r Jerwsalem nefol! Yma mae miloedd ar filoedd o angylion wedi dod at ei gilydd i addoli a dathlu…
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwrando’n ofalus ar Dduw, yr un sy’n siarad â chi…
Emyn 621 Yma’n hedd y mynydd sanctaidd…
Mae mynyddoedd yn gysegredig mewn crefyddau eraill hefyd fel Mynydd Fuji, yng nghrefydd y Bwda a’r Shinto yn Japan. Mae rhai yn dweud bod yr enw’n dod o’r un enw ag enw’r dduwies, Fuchi, duwies y tân ac mae cysegr iddi ar y copa.
Mae Mynydd Kailash ar y ffin rhwng India a Tibet yn gysegredig gan bedair crefydd: Hindwaeth, Bwdhaeth, crefydd Jain, a chrefydd Bön (un o draddodiadau ysbrydol hynafol Tibet). Does neb wedi dringo’r mynydd yma oherwydd yr amodau a’i uchder ond yn bennaf am resymau ysbrydol a chrefyddol.
Ac mae Machu Picchu yn uchel ar grib mynydd yng ngwlad Periw. Mae’n hen safle seremonïol, sy’n dyddio’n ôl i’r bymthegfed ganrif. Ar bob ochr o gwmpas y safle mae mynyddoedd a oedd o’r pwysigrwydd crefyddol mwyaf i’r Incas.
Bydd Catholigion Gwyddelig yn dringo i gopa Croag Patrig ym Mayo ar Sul olaf mis Gorffennaf ble bu’r Sant Padrig yn gweddïo ac yn ymprydio am ddeugain niwrnod. Mae olion hen gapel o’r bumed ganrif ar y copa a chaiff ei adnabod fel mynydd sanctaidd yr Iwerddon. Mae’r pererindod hwnnw’n debyg i bererindodau eraill fel y Camino de Santiago o Ogledd Ffrainc i Sbaen sy’n diweddu yn Santiago de Compostela.
Tybed faint o gapeli neu bentrefi y gwyddoch amdanynt yng Nghymru a gafodd eu henwi ar ôl mynyddoedd y Beibl – Tabor, Carmel, Moreia, Nebo neu Horeb?
Ni cheir pererindodau crefyddol i gopaon mynyddoedd Cymru ond ceir yr hen arfer o ddringo i gopa’r Wyddfa adeg lleuad lawn y naw nos olau bob mis Medi. Tybed a yw hynny’n tarddu o ryw hen ddefod yn ymwneud â thymor y cynhaeaf?
Fel y cyfeiriodd Alf Dubs ar y rhaglen Desert Island Discs mae angen ymdrech i ddringo i’r copa – boed i Ben y Fan, i gopa Cadair Idris neu’r Wyddfa. Wedi’r ymdrech mae’r boddhad o gyrraedd ac o fedru mwynhau’r golygfeydd godidog.
Mae copa mynydd yn rhywle y medrwn fyfyrio a dianc efallai rhag y pethau sy’n
peri gofid i ni, neu’n ein llethu, i lawr yn y gwaelod – boed hynny’n ymarferol neu’n feddyliol. Mae’n gyfle i fyfyrio.
Emyn: 108 Yr Arglwydd fendithiwn, cydganwn ei glod…
Y fendith
Arglwydd, anfon ni o ben y mynydd i wynebu’r byd drachefn,
gyda sicrwydd ffydd yn ein cerddediad,
gwres dy gariad yn ein calon,
a goleuni gobaith yn ein llygaid. Amen.